Tystebau Duets
Adborth a sylwadau cynulleidfa a theuluoedd am Duets.
Mae ein merch yn mwynhau cymryd rhan yn y sesiynau wythnosol ac mae hi bob amser yn awyddus i ddangos y gwahanol sgiliau a symudiadau y mae hi’n eu dysgu. Roedd yn wych cael gwylio’r perfformiad a chael gweld gwaith caled y plant i gyd a pha mor dda yr oedd pawb yn cydweithio. Mae’n anhygoel pa mor bell y maen nhw wedi dod – rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y perfformiad nesaf!
Eleni ac Ysgol Tŷ Ffynnon
Diolch o galon am rannu eich gwaith – roeddem ni wrth ein boddau ag ef. Mae cael gweld yr hyn y mae fy mab yn ei gyflawni ac yn ei ddysgu â Duets yn wirioneddol wych. Roedd y plant i gyd yn edrych mor hyderus a hapus – roedd yn bleser eu gwylio. Diolch yn fawr am roi’r cyfle rhyfeddol hwn i’n plant ni.
Jukebox Collective ac Ysgol Gynradd Moorland
Mae hi mor braf gweld yr holl blant yn dawnsio. Roedd y perfformiad yn hyfryd. Da iawn chi i gyd. Diolch yn fawr iawn am y cyfle hwn. Hoffwn i petai bob plentyn yn gallu dawnsio fel yna. Diolch! Diolch! Diolch!
Eleni ac Ysgol Tŷ Ffynnon
“Waw!
Waw yn wir!!
Da iawn ddisgyblion!”
Beth oedd gennych chi i'w ddweud…
“Diolch yn fawr iawn, iawn!!! Roedd gwylio’r plant yn perfformio yn rhyfeddol. Athrawon dawns anhygoel!”
Mae fy merch wir yn mwynhau’r sesiynau ballet a capoeira. Roedd yn hyfryd eu gweld nhw’n perfformio. Roedd y perfformiad yn Theatr Clwyd yn fendigedig ac yr ydym ni’n disgwyl yn eiddgar am yr un nesaf. Roeddem ni wrth ein boddau â sioe Romeo a Julieti’r graddau ein bod ni am ei gwylio dro ar ôl tro. Rydym ni’n mwynhau derbyn y newyddion diweddaraf am Ballet Cymru ar-lein ac yr ydym yn cymryd diddordeb yn y cylchgronau dawns bellach. Da iawn wir a diolch yn fawr.
Eleni ac Ysgol Tŷ Ffynnon
Arbennig! Gallwch weld bod y plant yn mwynhau cymaint, ac mae’n rhoi hwb anferthol i’w hyder yn ôl pob golwg – gwaith campus!
Ysgol Gynradd Pillgwenlli
Roedd gweld hyder ein mab yn y ddawns a’i weld yn gwenu pan nad oedd yn hyderus yn rhyfeddol. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth i’w hyder y tu allan i’r ysgol hefyd.
Eleni ac Ysgol Tŷ Ffynnon
“Roedd gweld hyder fy mab yn datblygu yn wych, diolch yn fawr!”