Rhaglen Llysgenhadon Duets
Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Duets yn lwybr ddilyniant uniongyrchol i’r Ysgolorion sy’n dilyn eu rhaglen hyfforddiant 2 flynedd yn eu hysgolion.
Yn ychwanegol, mae’r Llysgenhadon yn derbyn gwers ffocws eu hun, sy’n rhoi lle ac amser iddynt datblygu eu techneg a sgiliau coreograffi.
Mae’r Llysgenhadon ar draws Gymru i gyd yn dod at eu gilydd i gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddiant unigryw yn ystod y flwyddyn.
Mae hefyd cyfle i gyfeirio’r Llysgenhadon at hyfforddiant pellach sy’n digwydd ar draws Gymru, yn eu cymunedau lleol ac ar lefel genedlaethol.
Mae’r Llysgenhadon wedi’u hymrywmo i’r raglen Duets am ddwy flynedd ac mae hwn yn lwybr ddilyniant clir i ddatblygu eu sgiliau arweiniol a’u techeng ddawns.
O dan arweiniad yr Ymarferwyr Duets, mae’r Llysgenhadon yn cael eu hannog i gefnogi’r Ysgolorion newydd sy’n ymuno â’r rhaglen. Dros amser, mi fyddent yn cael mwy o gyfrifoldeb ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Ymarferwyr i arwain sesiynau cynhesu a helpu â thasgau creadigol.
Yn wythnosol, mae’r dawnswyr ifanc yn recordio beth maent wedi dysgu ac yn ysgrifennu syniadau newydd yn eu llyfrau nod Ballet Cymru.