Newyddion
15 Hydref 2021
Ysgolorion Duets Ysgol y Cribarth – Trip i Theatr Brycheiniog a'u perfformiad codi'r llen!
Mae'r Ysgolorion Duets yn Ysgol y Cribarth wedi cael tymor cyffrous iawn hyd yma! Wrth baratoi at eu perfformiad codi'r llen, ymwelsant â Theatr Brycheiniog a chael eu trin fel brenhinoedd.
Cawsant daith o amgylch y theatr a chyfle i gwrdd â'r Cyfarwyddwr a hefyd y Prif Dechnegydd. Dysgodd yr ysgolorion gymaint am y Diwydiannau Creadigol, a chawsant gyfle i ofyn cwestiynau i'r tîm yn y theatr.
Yn dilyn y daith, perfformiodd yr ysgolorion eu darn dawns anhygoel, a grëwyd gan Clara a Beth, sy'n ymarferwyr dawns yn Impelo, yn berfformiad codi'r llen ar gyfer cynhyrchiad Ballet Cymru o Giselle. Mae'r cyllid gan Sefydliad Paul Hamlyn a Chyngor Celfyddydau Cymru yn galluogi Ballet Cymru i ddarparu cludiant a thocynnau i'r ysgolorion a'u teuluoedd fynd i'r theatr a gwylio'r perfformiad proffesiynol. Roedd yn anhygoel gweld y plant yn perfformio am y tro cyntaf ar lwyfan proffesiynol, ac roedd siarad â'r rhieni balch wedyn yn brofiad hyfryd.
‘Nid oedd gennyf unrhyw syniad pa mor dda yr oedd am fod. Nid wyf erioed wedi gweld balleto'r blaen, ac roedd mor dda. Roedd perfformiad yr Ysgolorion Duets yn anhygoel, ac roedd pob un ohonynt yn llawn cyffro am heno!’ Rhiant Duets