Newyddion
30 Gorffenaf 2021
Ysgolorion Duets yn Theatr Glan yr Afon
Daeth ysgolorion Duets o ysgolion cynradd Eveswell, Somerton a Moorland ynghyd yr haf hwn i ymuno â chyrsiau Dawns Haf Cymru Ballet Cymru yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd. I rai, a oedd dim ond wedi cael un tymor o hyfforddiant ballet, roedd ymuno â dawnswyr eraill a pherfformio ar lwyfan yn her fawr, ac rydym mor falch ohonynt i gyd.
Cawsant eu haddysgu gan ddawnswyr proffesiynol Ballet Cymru, ac roeddent wedi gwella eu techneg ac ehangu eu geirfa yn ystod cwrs dwys yr wythnos, gan orffen gyda pherfformiad wedi'i ffilmio o repertoire o gynhyrchiad y cwmni o Giselle a'u gwaith creadigol eu hunain.
Roeddem wrth ein boddau yn eu gweld yn achub ar y cyfle hwn i fentro i’r dwfn, mae yna bethau cyffrous o flaen y dawnswyr ifanc dewr hyn.