Newyddion
18 Hydref 2021
Sesiwn hyfforddi Duets gyda dawnswyr Cyn-broffesiynol Ballet Cymru
Mae Ballet Cymru yn teimlo'n angerddol ynghylch ymgorffori'r addysg a'r gwaith allgymorth yn y rhaglen gyn-broffesiynol. Cynhaliwyd prynhawn o hyfforddiant yn canolbwyntio ar y sesiynau Duets, ac roedd 11 o ddawnswyr cyn-broffesiynol yn bresennol. Arweiniwyd y sesiwn gan Louise, a gyflwynodd ballet, a Christine, a gyflwynodd ddosbarth dawnsio cyfoes. Mae Louise a Christine yn cyflwyno Rhaglenni Ysgoloriaeth Duets yn Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton, a leolir yng Nghasnewydd. Y cam nesaf i'r dawnswyr cyn-broffesiynol yw mynychu'r sesiynau yn yr ysgolion er mwyn rhoi'r hyn y maent wedi'i ddysgu ar waith!