Newyddion
7 Tachwedd 2021
Perfformiad agoriadol Ysgol Gynradd Eveswell ddydd Sul 7 Tachwedd
“Roedd yn anhygoel, ac rwy'n bendant am wneud hyn eto” – disgybl Duets yn Eveswell.
Ar ôl dim ond ychydig fisoedd o ddosbarthiadau balleta chyfoes, roedd disgyblion Duets Ysgol Gynradd Eveswell wedi llwyr ddisgleirio ar lwyfan Theatr Glan yr Afon, ac wedi dangos cyfuniad o dechnegau a dilyniannau yr oeddent wedi eu dysgu ochr yn ochr â'u syniadau creadigol eu hunain. Roedd y darn yn adleisio ail act Giselle Ballet Cymru, ac ymgorfforodd y plant symudiadau a oedd yn darlunio’r sombïaid a’r ysbrydion a oedd yn gaeth yn y goedwig.
“Dywedodd fy mam ein bod ni i gyd yn wych, a bod arni eisiau gweld sioe arall fel hon” – disgybl Duets yn Eveswell.
Cafodd pob disgybl docyn am ddim er mwyn i rywun allu dod i'w wylio'n perfformio; roedd teulu cyfan rhai o'r disgyblion wedi dod, ac nid oedd y mwyafrif ohonynt erioed wedi bod i wylio perfformiad mewn theatr o’r blaen. Ar ôl perfformio’r darn codi'r llen i agor y sioe, ymunodd y disgyblion â’r gynulleidfa i wylio Ballet Cymru yn perfformio Giselle, ac roedd y plant i gyd a’u teuluoedd yn rhyfeddu at y dawnswyr proffesiynol, sydd wedi ysbrydoli’r disgyblion yn eu sesiynau balleteu hunain. Daeth un o'r disgyblion yn ôl yr wythnos ganlynol i weld Ballet Cymru yn perfformio ei raglen driphlyg, Gwnaed yng Nghymru. Roedd eu perfformiad yn rhyfeddol ac rydym mor falch o bob un ohonynt.
“Roeddwn wrth fy modd. Roedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd, ac rwyf am wneud hyn eto” – disgybl Duets yn Eveswell.