Newyddion
16 Hydref 2021
Diwrnod agored ballet Impelo yn Y Theatr Ddawns, Llandrindod, Powys, Canolbarth Cymru
O ganlyniad uniongyrchol i'r bartneriaeth Duets ag Impelo, gwahoddwyd dawnswyr cwmni Ballet Cymru i fod yn rhan o ddiwrnod cyffrous o ballet yn eu stiwdio ddawns yn Llandrindod, Powys.
Roedd 34 o gyfranogwyr, o blant pedair oed i oedolion, wedi ymuno â sesiynau ballet dan arweiniad Clara a Beth, ymarferwyr dawns yn Impelo, a Beth ac Andrea, dawnswyr cwmni Ballet Cymru. Roedd y diwrnod yn llawn hwyl, lliw, cerddoriaeth a chwerthin, ac roedd yn bleser cael bod yn rhan ohono. Gweithiodd pawb mor galed, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu balletar gyfer pob oedran gydag Impelo.