Newyddion
14 Gorffenaf 2021
Diwedd Blwyddyn 2 - Wythnos Ffilmio Ysgol Tŷ Ffynnon
Mae'r ysgolorion yn Ysgol Tŷ Ffynnon, Gogledd Ddwyrain Cymru, wedi bod yn gweithio yn galed iawn dros yr wythnosau diwethaf ar ei darnau Ballet a Capoeira newydd.
Maent wedi bod yn lwcus iawn i gael y siawns o fynychu sesiynau ychwanegol dros yr wythnosau diwethaf gyda Amanda a Hanna er mwyn datblygu dawnsfeydd newydd wedi eu selio ar y stori Giselle. Mae'r ddau ddarn wedi eu creu mewn safleoedd tu allan ar dir yr Ysgol.
Dydd Mercher 14eg o Orffennaf, fe wahoddwyd Hugh i mewn i'r ysgol i ffilmio'r darnau dawns, lwcus roedd yr haul yn gwenu! Cafodd yr ysgolorion amser da yn ffilmio tu allan, roedd yn ddiweddglo da i Flwyddyn 2 o'r Ysgoloriaeth.
Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at y cam nesaf o'u hyfforddiant, yn Fis Medi bydden nhw yn symud ymlaen i'r rhaglen Etifeddiaeth ac yn Llysgenhadon Duets.