Newyddion
18 Rhagfyr 2020
Dathlu ar ddiwedd y tymor
Byddai Ballet Cymru fel arfer yn trefnu sesiynau rhannu ar ddiwedd y tymor yn yr ysgolion, gan wahodd yr holl deuluoedd a ffrindiau i'r neuaddau i ddathlu'r gwaith yr ydym wedi'i gyflawni. Gan na fydd hyn yn bosibl eleni, rydym yn anelu at ddwyn yr holl gyfranogwyr ynghyd, trwy Zoom, ym mis Rhagfyr, i ddawnsio, rhannu eu gwaith ar-lein, a rhannu unrhyw ffilmiau a grëwyd yn ystod yr adeg hon. Rydym wedi dysgu bod Zoom yn rhoi cyfle i ni ddod ag Ysgolorion o bob cwr o Gymru ynghyd, ac mae'n gyffrous iddynt weld eu bod yn rhan o Raglen Genedlaethol.