Newyddion
8 Medi 2021
Carfan Newydd o Ysgolorion Duets yn Ysgol Tŷ Ffynnon, Glannau Dyfrdwy gyda NEW Dance!
Roedd timau Dues Ballet Cymru a NEW Dance llawn cyffro o dreulio amser yn Ysgol Tŷ Ffynnon, Glannau Dyfrdwy, i ddewis y garfan newydd o Ysgolorion Duets ar gyfer y rhaglen hyfforddi dawns.
Bu'r tîm yn gweithio gyda 58 o blant o flynyddoedd 4 a 5, a gwahoddwyd 29 o blant i ymuno â'r rhaglen Duets. Mae dau ysgolor o'r blynyddoedd blaenorol wedi ymuno â ni yn rôl ‘Llysgenhadon Duets’, a byddant yn cefnogi'r ymarferwyr dawns a'r ysgolorion newydd bob wythnos. Mae'r anhygoel Anita o NEW Dance wedi ymuno â'r tîm, a bydd yn cyflwyno dosbarthiadau Jazz wythnosol ochr yn ochr â'r sesiynau balletdan arweiniad Amanda.