Newyddion
22 Medi 2021
Carfan Newydd o Ysgolorion Duets yn Ysgol Gynradd Moorland, Caerdydd gyda Jukebox Collective!
Ysgol Gynradd Moorland yw ein hysgol bartner sydd wedi bod yn rhan o Duets hiraf. Roeddem wedi dechrau'r rhaglen yno yn 2012, ac rydym yn falch iawn o gael parhau â'r berthynas wych hon am y flwyddyn nesaf.
Dros ddau ddiwrnod, bu'r tîm Duets yn gweithio gyda 120 o blant, a gwahoddwyd 38 o blant i fod yn rhan o Raglen Ysgoloriaeth Duets. Bydd Louise o Ballet Cymru yn arwain y sesiynau ballet, a bydd Tayla, sy'n ymarferydd gyda Jukebox Collective, yn cyflwyno dawnsio stryd! Bydd Natasha yn ymuno â'r tîm hefyd; buodd hi'n gweithio gyda'r Ysgolorion Duets yn Ysgol Gynradd Llanllyfni yng Ngogledd Cymru. Mae Natasha wedi symud i Gaerdydd, a byddai'n hoffi bod yn rhan o Duets o hyd a pharhau â'r berthynas â Ballet Cymru!